Croeso i wefan ein hysgol. Rydym yn gobeithio y byddwch yn gweld y wefan yn ddefnyddiol, yn ddiddorol ac yn llawn gwybodaeth. Rydym yn ymgeisio i wneud dysgu yn hwyl a gobeithiwn bod hyn yn cael ei adlewyrchu yn ein gwefan. Rydym dal yn datblygu’r wefan newydd felly edrychwch ar y dudalen newyddion yn gyson.
Ysgol Gynradd Wirfoddol, o dan Reolaeth yr Eglwys yng Nghymru, ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol Dau yw ysgol Llanddarog. Saif yr ysgol yng nghanol y pentref ac mae’n gwasanaethu pentref Llanddarog a phentref cyfagos Porthyrhyd a’r ardal o gwmpas yn Sir Gaerfyrddin. Ystod oed y plant yw o 3 oed i 11 oed.
Ysgol ddymunol i mi – am mai hon
Yw’r gymuned inni:
Llanddarog yn f’ysgogi,
Llanddarog yn d’annog di.
Tudur Hallam
