Ysgol Llanddarog – Datganiad GDD 2024/2025
Dyrennir y Grant Datblygu Disgyblion (GDD) i ysgolion â disgyblion sy’n dod o deuluoedd incwm isel ac ar hyn o bryd eu bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim (e-FSM) a disgyblion sydd wedi bod yn derbyn gofal yn barhaus am fwy na chwe mis (LAC). Disgwylir i ysgolion wneud y defnydd gorau o’r cyllid hwn i roi strategaethau cynaliadwy ar waith a fydd yn sicrhau newidiadau’n gyflym i ddysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim neu sy’n derbyn gofal.
Fel ysgol rydym wedi cytuno ar y tri cham canlynol:
- i nodi’r grŵp targed o ddisgyblion, ei nodweddion a’i anghenion
- cynllunio ymyriadau sy’n gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau
- monitro a gwerthuso effaith adnoddau
Yn 2024-25 darparwyd dyraniad GDD o £2,379 i Ysgol Llanddarog.
Mae gennym gynllun cynhwysfawr, y cytunwyd arno ac a fonitrir gan Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin a Phartneriaeth, i hyrwyddo cynnydd a dileu rhwystrau i ddysgu i fyfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer y cyllid hwn.