Mae Ysgol Llanddarog yn Ysgol Iach! Rydym wedi derbyn y bumed deilen ac rydym yn gweithio tuag at y Wobr Ansawdd Genedlaethol.
Anogwn ein plant i ddatblygu agwedd iach at fywyd trwy fwyta’n iach a chadw’n heini.
Rhown amrywiol gyfleoedd i’r plant i ddysgu sgiliau paratoi bwyd a choginio’n iach trwy gyfrwng gwersi ac yn ystod Urdd ar nos Fercher. Mae siop ffrwythau yn yr ysgol lle mae’r disgyblion yn gwerthu ffrwyth yn ddyddiol.
Cynigir profiadau mewn amrywiaeth eang o chwaraeon, er mwyn meithrin a hybu datblygiad sgiliau, trwy wersi addysg gorfforol, gweithgareddau chwaraeon rheolaidd ac yn ystod Urdd. Trefnwn ymweliad i Wersyll Llangrannog yn flynyddol.