E-Ddiogelwch a Diogelu Plant

Cliciwch uchod ar gyfer Canllawiau Diogelwch Ar-lein i Rieni a Gofalwyr

Mae’n hanfodol i addysgu ein disgyblion am ddiogelwch ar-lein mewn ysgol 21ain Ganrif. Mae ein disgyblion yn aml yn cymryd rhan mewn gwersi lle mae materion diogelwch ar-lein yn cael eu hamlygu, fel y gallant wneud penderfyniadau annibynnol am gadw eu hunain yn ddiogel tra yn y byd digidol a go iawn. Bydd Swyddog Cyswllt yr Heddlu hefyd yn ymweld â’r ysgol i gefnogi’r dysgu yn yr ystafell ddosbarth, ac i sicrhau bod y negeseuon diogelu priodol yn cael eu rhannu gyda’r plant a’r staff.

Manteisiwch ar y cyfle i ymweld â’r dolenni isod i ddod o hyd i wybodaeth a gweithgareddau cyflawn, a fydd yn hyrwyddo ymwybyddiaeth ehangach o faterion e-Ddiogelwch.


Gyda pwy ddylwn i gysylltu am help, canllawiau neu Gymorth?


Canllawiau e-Diogelwch

Yn Ysgol Llanddarog, rydym o’r farn bod ein disgyblion yn elwa’n sylweddol o ddefnyddio technolegau gwybodaeth a chyfathrebu. Bydd cydnabod yr her a wynebir o ran e-Ddiogelwch, a chynllunio yn unol â hynny, yn help i sicrhau y defnyddir cysylltiadau electronig yn briodol, yn effeithiol, yn ddiogel ac yn gadarnhaol.

Rhwydweithio Cymdeithasol – Canllaw i Rieni
Staff yr Ysgol - Canllawiau ar gyfer e Ddiogelwch

Nid yw Ysgol Gynradd Llanddarog yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol.