Plant Mewn Angen
Diolch i bawb a gyfrannodd i ddiwrnod Plant Mewn Angen. Llwyddom i godi £270 tuag at yr elusen trwy wisgo pyjamas i’r ysgol a thrwy werthu bisgedi Pudsey, cacennau ac ysgytlaeth. Roedd gennym ‘Photo Booth’ yn yr ysgol hefyd!
Bore Coffi Macmillan
Cynhaliwyd Bore Coffi Macmillan yn yr ysgol ar fore dydd Gwener, Medi 27ain. Cafwyd bore prysur iawn gydag aelodau’r Eco-Gyngor yn croesawu rhieni a ffrindiau, gwerthu raffl a gweini. Cafwyd bore llwyddiannus ac fe godwyd £560 tuag at yr elusen! Diolch yn fawr am eich cefnogaeth.
Bu disgyblion CA2 yn brysur yn creu baneri ar gyfer y Bore Coffi yn ystod sesiwn Urdd. A bu’r disgyblion yn ymuno yn yr hwyl ar y diwrnod trwy wisgo gwyrdd neu borffor i’r ysgol a gwerthwyd jeli, bisgedi ag eisin a diod gwyrdd a phorffor.
Yr Ardd Weddi
Agorwyd ein Gardd Weddi ar fore Dydd Iau, Gorffennaf 20fed, 2017. Agorwyd yr Ardd gan y Parch Alun Evans. Cafodd y disgyblion gyfle i wneud cynlluniau ar gyfer yr Ardd a bu’r ysgol yn cyd-weithio’n agos gyda’r Eglwys i roi’r cynlluniau ar waith. Rhaid diolch i Eglwys St Twrog am noddi cost y gwaith a diolch i rai o’r aelodau am eu gwaith ymarferol yn paratoi’r ardd.
Sioe Llanddarog
Croeso i Babell y Plant Sioe Llanddarog 2019. Ein thema eleni oedd Y Gofod. Bu’r disgyblion yn brysur yn cystadlu mewn amryw o gystadlaethau yn yr ysgol, yn y cartref ac ar ddiwrnod y sioe
Mabolgampau'u Ysgol
Cynhaliwyd mabolgampau’r ysgol ar ddydd Iau, Gorffennaf 4ydd. Cawsom brynhawn llwyddiannus, llawn hwyl a bu’r disgyblion yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o wahanol rasys. Daeth llawer o rieni a ffrindiau i gefnogi a bu’r cyflwynydd Marc Griffiths yn darlledu’n fyw ar Cymru FM. Da iawn i bawb gymerodd ran.
Gwasanaeth Ymadael
Cynhaliwyd Gwasanaeth Ymadael i ddisgyblion Blwyddyn 6 ar ddydd Mawrth, Gorffennaf 16eg. Cyflwynodd pob un o’r disgyblion eu gobeithion am y dyfodol a chyflwynwyd Testament Newydd i bob disgybl yn rhodd gan Eglwys St Twrog. Dymunwn pob lwc iddynt ym Maes y Gwendraeth.