Author: Wefan L

CS Blwyddyn 1 a 2

FP Year 1 and 2

Tric a Chlic

Cynllun ffoneg synthetig yw Tric a Chlic er mwyn dysgu sain a ffurf llythrennau, strategaethau adeiladu i ddarllen a thorri geiriau i sillafu ac i annog rhuglder a mynegiant wrth ddarllen o’r dechrau un.


Math y Mwydyn

Math y Mwydyn: Adnodd i ddysgu plant i ffurfio llythrennau a rhifau.

Mae modd archebu’r holl ddeunyddiau o’r siop ar-lein ar wefan Canolfan Peniarth. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.


Parti Penblwydd Marco Polo

Penblwydd Hapus Marco Polo!

Cawsom lawer o hwyl yn dathlu penblwydd Marco!

CS Meithrin a Derbyn


Tric a Chlic

Cynllun ffoneg synthetig yw Tric a Chlic er mwyn dysgu sain a ffurf llythrennau, strategaethau adeiladu i ddarllen a thorri geiriau i sillafu ac i annog rhuglder a mynegiant wrth ddarllen o’r dechrau un.


Math y Mwydyn

Math y Mwydyn: Adnodd i ddysgu plant i ffurfio llythrennau a rhifau.

Mae modd archebu’r holl ddeunyddiau o’r siop ar-lein ar wefan Canolfan Peniarth. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.


Parti Penblwydd Marco Polo

Penblwydd Hapus Marco Polo!

Cawsom lawer o hwyl yn dathlu penblwydd Marco!

Bore Coffi Macmillan

Cynhaliwyd Bore Coffi Macmillan yn yr ysgol ar fore dydd Gwener, Medi 27ain. Cafwyd bore prysur iawn gydag aelodau’r Eco-Gyngor yn croesawu rhieni a ffrindiau, gwerthu raffl a gweini. Cafwyd bore llwyddiannus ac fe godwyd £560 tuag at yr elusen! Diolch yn fawr am eich cefnogaeth.

Bu disgyblion CA2 yn brysur yn creu baneri ar gyfer y Bore Coffi yn ystod sesiwn Urdd. A bu’r disgyblion yn ymuno yn yr hwyl ar y diwrnod trwy wisgo gwyrdd neu borffor i’r ysgol a gwerthwyd jeli, bisgedi ag eisin a diod gwyrdd a phorffor.

Yr Ardd Weddi

Agorwyd ein Gardd Weddi ar fore Dydd Iau, Gorffennaf 20fed, 2017. Agorwyd yr Ardd gan y Parch Alun Evans. Cafodd y disgyblion gyfle i wneud cynlluniau ar gyfer yr Ardd a bu’r ysgol yn cyd-weithio’n agos gyda’r Eglwys i roi’r cynlluniau ar waith. Rhaid diolch i Eglwys St Twrog am noddi cost y gwaith a diolch i rai o’r aelodau am eu gwaith ymarferol yn paratoi’r ardd.

Sioe Llanddarog

Croeso i Babell y Plant Sioe Llanddarog 2019. Ein thema eleni oedd Y Gofod. Bu’r disgyblion yn brysur yn cystadlu mewn amryw o gystadlaethau yn yr ysgol, yn y cartref ac ar ddiwrnod y sioe

Mabolgampau'u Ysgol

Cynhaliwyd mabolgampau’r ysgol ar ddydd Iau, Gorffennaf 4ydd. Cawsom brynhawn llwyddiannus, llawn hwyl a bu’r disgyblion yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o wahanol rasys. Daeth llawer o rieni a ffrindiau i gefnogi a bu’r cyflwynydd Marc Griffiths yn darlledu’n fyw ar Cymru FM. Da iawn i bawb gymerodd ran.

Gwasanaeth Ymadael

Cynhaliwyd Gwasanaeth Ymadael i ddisgyblion Blwyddyn 6 ar ddydd Mawrth, Gorffennaf 16eg. Cyflwynodd pob un o’r disgyblion eu gobeithion am y dyfodol a chyflwynwyd Testament Newydd i bob disgybl yn rhodd gan Eglwys St Twrog. Dymunwn pob lwc iddynt ym Maes y Gwendraeth.